Rhif y ddeiseb: P-06-1240

Teitl y ddeiseb: Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy’n byw yng Nghymru.

Geiriad y ddeiseb:Rydym yn pryderu nad yw’r gwasanaethau cyfredol i bobl ag epilepsi sy’n byw yng Nghymru yn rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt. Mae Epilepsy Action yn argymell llwyth achosion o ddim mwy na 250 o bobl i bob Nyrs Epilepsi Arbenigol, a hynny er mwyn lleihau effaith eu cyflwr a darparu’r gofal gorau posibl. Nid oes yr un rhan o Gymru’n bodloni’r argymhelliad hwn ar hyn o bryd. Mae yna brinder nyrsys epilepsi arbenigol ac mewn llawer o ardaloedd mae’r amseroedd aros i weld niwrolegwyr dros 12 mis.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Mae gan bron 1 o bob 100 o bobl yn y DU epilepsi. Yng Nghymru, mae gan tua 32,000 o bobl epilepsi.

Mae epilepsi yn gyflwr niwrolegol sy'n effeithio ar yr ymennydd ac yn achosi trawiadau neu deimladau ac ymddygiadau anarferol. Gall epilepsi ddechrau ar unrhyw oedran a cheir llawer o wahanol fathau. Bydd rhai plant yn tyfu allan o'r cyflwr wrth iddynt fynd yn hŷn. Ond i lawer o bobl, mae epilepsi yn gyflwr gydol oes. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Epilepsy Action Cymru

Gall triniaeth reoli episodau epileptig. Ni all meddyginiaethau epilepsi wella epilepsi ond mae cyffuriau gwrth-epileptig (AEDs) yn gallu helpu i atal neu leihau nifer y trawiadau. Mae mathau eraill o driniaeth yn cynnwys llawdriniaeth ar yr ymennydd, neu weithiau gellir defnyddio deiet arbennig (y deiet cetogenig) ar gyfer plant.

Mae Nyrsys Epilepsi Arbenigol yn chwarae rhan arwyddocaol yng ngofal pobl ag anhwylderau niwrolegol fel epilepsi.

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn 2017. Sefydlwyd Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol i oruchwylio’r cynllun cyflawni a chefnogi’r Byrddau Iechyd a phartneriaid i gyflawni eu cynlluniau lleol.

Mae'r Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol, sy'n ymdrin â chyflyrau sy'n cynnwys sglerosis ymledol, clefyd niwronau motor, epilepsi, clefyd Parkinson, nychdod cyhyrol ac anaf caffaeleidg i'r ymennydd yn rhan o Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru (sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio ar ran y cyrff iechyd sy’n rhan o GIG Cymru).

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Yn lle hynny, mae Fframwaith Clinigol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn disgrifio sut y bydd gwasanaethau clinigol (fel cyflyrau niwrolegol) yn cael eu cefnogi gan ystod o ddatganiadau ansawdd sy'n nodi bwriadau polisi lefel uchel ac yn disgrifio'r safonau a'r canlyniadau a ddisgwylir gan wasanaethau clinigol. Nid oes datganiad ansawdd ar gyflyrau niwrolegol wedi'i gyhoeddi eto.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei hymateb at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywed Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru yn “parhau i gydweithio â’r Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol er mwyn gwella gwasanaethau i’r rheini ledled Cymru sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys epilepsi”. Mae’r Gweinidog yn nodi nifer o flaenoriaethau y mae’r Grŵp yn gweithio arnynt ar hyn o bryd gan gynnwys:

§  Datblygu dangosfwrdd data ar gyfer epilepsi; i gefnogi achosion busnes ar gyfer datblygu gwasanaethau a sicrhau cefnogaeth i bobl sydd ag epilepsi yn y dyfodol.

§  Datblygu datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau niwrolegol; yn pennu’r disgwyliadau o ran sut y mae modd cefnogi pobl â chyflyrau niwrolegol yn well.

§  Cydgysylltu ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU; i sicrhau bod strategaeth Llywodraeth y DU ar gyflyrau niwrolegol yn ystyried bod gwasanaethau iechyd wedi’u datganoli yng Nghymru.

Mae’r Gweinidog yn dweud yn glir mai’r Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd sy’n parhau i fod yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i’r rheini sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys epilepsi.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.